Yn Macmillan, rydym am i bawb â chanser fyw bywyd mor llawn ag y gallant.
Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg yn ddim llai ffafriol na'r iaith Saesneg yng Nghymru ac rydym yn annog ei defnyddio lle bynnag y bo modd o fewn yr adnoddau sydd gennym.
Cysylltu â ni
- Galwadau ffôn
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, byddwn yn trefnu i siaradwr Cymraeg ddychwelyd yr alwad cyn gynted â phosibl. Gall galwyr i Linell Gymorth Macmillan gael gafael ar gymorth yn Gymraeg trwy gyswllt iaith. - Gohebiaeth
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg. - Ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg ar unrhyw adeg trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae ein cynnwys sydd wedi’i gynllunio ymlaen llaw ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru yn ddwyieithog ac rydym yn ymateb i sylwadau a wneir yn Gymraeg yn yr un iaith. - Staff Cymraeg eu hiaith
Mae ein cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn oren gyda logo laith Gwaith arno ac maen nhw'n defnyddio'r logo hwn yn eu llofnod e-bost. Rydym yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi ein staff i feithrin sgiliau Cymraeg lle bynnag y bo modd a byddwn yn annog ein staff a'n gwirfoddolwyr i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Ein hunaniaeth
- Ein hunaniaeth
Mae ein delwedd gyhoeddus a'n hunaniaeth, gan gynnwys ein logo, yn ddwyieithog yng Nghymru ac mae deunyddiau arddangos sy’n cael eu gwneud i'w defnyddio yng Nghymru yn ddwyieithog. - Eich helpu chi i hyrwyddo eich digwyddiad
Os ydych chi'n codi arian neu'n trefnu digwyddiad ar gyfer Macmillan, diolch! Gallwch ddod o hyd i ddeunyddiau y gellir eu golygu a'u lawrlwytho fel posteri yn rhad ac am ddim ar ein gwefan be.macmillan.org.uk. - Ein digwyddiadau yng Nghymru
Mae arwyddion a chyfarchion cynhadledd ar gyfer ein digwyddiadau yng Nghymru yn ddwyieithog. Mae llenyddiaeth fel gwahoddiadau yn ddwyieithog lle bynnag y bo modd.
Ein gwaith
- Hyrwyddwr Cymraeg
Byddwn yn penodi hyrwyddwr Cymraeg i fonitro gweithrediad ein Cynllun Iaith Gymraeg. Bydd yr hyrwyddwr yn monitro ein cynnydd a byddwn yn gweithio gyda swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg ar ein cynnig Cymraeg. - Cyfieithu Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio cyfieithwyr allanol proffesiynol i sicrhau bod y cyfieithiadau a ddefnyddiwn o safon uchel.
- Polisïau a mentrau newydd
Rydym yn asesu canlyniadau unrhyw bolisïau a mentrau newydd yng Nghymru ar ofynion iaith a, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, rydym yn sicrhau eu bod yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. - Gwybodaeth am ganser
Mae ein gwybodaeth fwyaf poblogaidd am ganser ar gael yn Gymraeg naill ai ar ffurf brintiedig neu ddigidol, yn dibynnu ar y cyhoeddiad. Rydym yn cyfieithu deunyddiau ar gais lle bynnag y gallwn. Mae ein gwasanaeth gwybodaeth a chymorth symudol yn cynnwys ystod o ddeunydd dwyieithog a Chymraeg ac rydym yn ceisio sicrhau bod staff sy'n siarad Cymraeg ar gael mor aml â phosibl. - Deunyddiau ysgrifenedig
Mae llenyddiaeth fel taflenni ar gyfer ein gwasanaethau yng Nghymru yn ddwyieithog ac mae ein cyhoeddiadau, fel adroddiadau ac e-gylchlythyrau, yn ddwyieithog lle bynnag y bo modd. Rydym yn cyhoeddi deunyddiau ysgrifenedig fel dogfennau dwyieithog lle bynnag y gallwn a, lle mae fersiynau Saesneg a Chymraeg yn cael eu cynhyrchu ar wahân, byddwn yn eu cyhoeddi ar yr un pryd. - Gweithio gyda’r cyfryngau yng Nghymru
Mae ein datganiadau i'r wasg yn ddwyieithog lle bynnag y bo modd, ac rydym yn cynnig llefarwyr a chyfranwyr stori Cymraeg pryd bynnag maen nhw ar gael. - Ein partneriaid a thrydydd partïon
Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, trydydd partïon ac unrhyw gontractwyr i sicrhau bod eu gwaith gyda ni yn gyson â'n cynllun. - Cwynion
Rydym yn monitro ac yn ymateb i unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r Gymraeg a bydd hyrwyddwr y Gymraeg yn argymell y camau a'r newidiadau nesaf lle bo angen.