Cymraeg – Welsh
Chwiliwch am ein gwasanaethau cefnogaeth canser a chael gwybodaeth am ddim yn eich iaith.
Cael gwybodaeth yn eich iaith
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth rydych ei hangen yn eich iaith, gallwch ofyn i rai darnau gwybodaeth gael eu cyfieithu am ddim i un o 200 o ieithoedd. E-bostiwch ni ar cancerinformationteam@macmillan.org.uk a dweud pa wybodaeth rydych ei hangen.
Cancer and coronavirus - Canser a'r coronafeirws
- Cancer and coronavirus [PDF] - Canser a'r coronafeirws
Signs and symptoms of cancer - Arwyddion a symptomau canser
- Symptom awareness - Symptomau canser
If you are diagnosed with cancer - Os cewch ddiagnosis o ganser
- If you are diagnosed with cancer - a quick guide [PDF] - Os cewch ddiagnosis o ganser – Canllaw cyflym
Types of cancer - Mathau o ganser
- Breast cancer - fact sheet [PDF] - Canser y fron - taflen ffeithiau
- Bowel cancer - fact sheet [PDF] - Canser y coluddyn mawr – taflen ffeithiau
- Lung cancer - fact sheet [PDF] - Canser yr ysgyfaint – taflen ffeithiau
- Prostate cancer - fact sheet [PDF] - Canser y brostad – taflen ffeithiau
Treatment for cancer - Triniaeth am ganser
- Chemotherapy [PDF] - Cemotherapi
- Radiotherapy [PDF] - Radiotherapi
- Side effects of cancer treatment [PDF] - Sgîl-effeithiau triniaeth canser
- Surgery [PDF] - Llawfeddygaeth
- Sepsis and cancer [PDF] - Sepsis a canser
Living with cancer - Byw gyda chanser
- Claiming benefits when you have cancer[PDF] - Hawlio budd-daliadau pan mae gennych chi ganser
- Help with costs when you have cancer [PDF] - Help gyda chostau pan fydd gennych chi ganser
- Eating problems and cancer [PDF] - Problemau bwyta a chanser
- Tiredness (fatigue) and cancer [PDF] Blinder a chanser
- Healthy eating [PDF] - Bwyta’n iach
- What to do after cancer treatment ends - Beth i'w wneud ar ôl i driniaeth canser ddod i ben: 10 awgrym
End of life - Diwedd oes
- End of life [PDF] - Diwedd oes
Defnyddio Llinell Gymorth Macmillan yn eich iaith chi
Gallwch siarad â thîm Llinell Gymorth Macmillan yn eich iaith chi. Ffoniwch 0808 808 00 00 a dywedwch wrthym, yn Saesneg, yr iaith rydych ei hangen. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am eich manylion cyswllt er mwyn i gyfieithydd allu'ch ffonio'n ôl. Mae’n bosibl yr hoffech ofyn i ffrind neu aelod o'r teulu i'ch helpu gyda rhoi'r wybodaeth hon.
Sgwrsio ar-lein yn eich iaith
Gallwch ofyn am gyfieithydd ar gyfer ein gwasanaeth sgwrs ar y we. Gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth sgwrs ar y we o'r eicon sgwrs ar y we ar gornel dde isaf eich sgrin.
Anfonwch neges sgwrs ar y we atom yn Saesneg yn dweud eich bod eisiau cyfieithydd ac ym mha iaith. Mae ein gwasanaeth sgwrsio ar gael rhwng 8am ac 8pm 7 niwrnod o’r wythnos, a byddwn yn trefnu i rywun gysylltu â chi.
Helpwch ni i wella ein cyfieithiadau
Gallwch gysylltu â ni trwy e-bost os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch sut gallwn wella ein cyfieithiadau. Mae'ch adborth yn bwysig i ni: cancerinformationteam@macmillan.org.uk.