Yng Nghymru, mae 19,000 o bobl yn cael diagnosis canser bob blwyddyn ac mae dros 130.000 o bobl yn byw gyda chanser neu'r tu hwnt iddo ar hyn o bryd, bron i 4.5 y cant o'r boblogaeth1. Erbyn 2030 disgwylir y bydd 250,000, bron i wyth y cant o boblogaeth Cymru, wedi cael eu heffeithio gan ddiagnosis canser a bydd un o bob dau ohonom yn cael ei effeithio gan ganser ar ryw adeg yn ein bywydau.
Y newyddion da yw bod cyfraddau goroesi'n gwella'n raddol a bod llawer o bobl yn gwella. Ar gyfartaledd mae 70 y cant2 o drigolion Cymru sy'n cael diagnosis canser yn gallu goroesi am o leiaf un flwyddyn. Ond, mae angen ystyried y cyfraddau goroesi sy'n gwella yng Nghymru yng nghyd-destun cyfraddau goroesi hyd yn oed yn well mewn nifer o wledydd eraill yn Ewrop.
Rydyn ni'n falch fod Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru 2017-2020 yn adlewyrchu ymagwedd uchelgeisiol at gyflwyno gwasanaethau canser yng Nghymru. Credwn fod angen rhoi trefniadau rheoli perfformiad cryfach yn eu lle erbyn hyn er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar y cynllun yn cael ei gweithredu a'i monitro er mwyn gwella'r cysondeb a'r gwasanaethau i bob un sydd wedi'i effeithio gan ganser ledled Cymru.
Gallwch ddarllen ein hymateb llawn i gyfrannu at adolygu cynllun cyflawni ar gyfer canser Llywodraeth Cymru yma.
[1] WCISU Chwe 2015
[2] Data 2012 Ystadegau Swyddogol Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru. Cyhoeddwyd 10 Ebrill 2014
Close