Maniffesto Etholiad Macmillan Cymru

Mae Macmillan Cymru wedi cynhyrchu maniffesto ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016, yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau canser sydd gyda'r gorau yn Ewrop.

Rydym eisiau i Lywodraeth etholedig Cymru sicrhau bod pobl sydd â chanser yng Nghymru'n cael gofal tosturiol, o ansawdd uchel, ble bynnag y maen nhw'n byw neu pa fath bynnag o ganser sydd arnyn nhw.

Hefyd rydym wedi galw am strategaeth ganser newydd i Gymru, yn seiliedig ar uchelgais Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser presennol ac i bob un sydd â chanser yng Nghymru gael mynediad i Nyrs Arbenigol Clinigol sydd hefyd yn weithiwr allweddol iddyn nhw, i'w tywys drwy eu triniaeth.

Darllenwch ein maniffesto yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Cyflwyniad

Mae’r nifer o bobl yng Nghymru a effeithir gan ganser yn codi. Er bod mwy o bobl yn goroesi, mae gormod o bobl yn parhau i farw o ganser neu ddim yn byw ymhell wedi’u triniaeth.

Gallent fod â sgil-effeithiau hirdymor fel blinder, anymataliaeth neu lymffoedema1. Mae angen agwedd uchelgeisiol newydd arnom i gyfateb i natur newidiol canser a’i driniaeth, fel y gall llawer mwy o bobl oroesi a byw yn dda gyda a thu hwnt i’w diagnosis o ganser.

Wedi etholiad 2016, mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru gyflwyno gofal canser sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n darparu’n gyson ar gyfer pob unigolyn sydd wedi cael diagnosis canser â chanlyniadau am driniaeth, gofal a phrofiad sy’n cyfateb â’r gorau yn Ewrop.

Yng Nghymru, mae dros 19,000 (WCISU Chwe 2015) yn derbyn diagnosis canser bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae mwy na 130,000 o bobl yn byw gyda chanser neu wedi mynd tu hwnt iddo. Mae hyn bron 4.5 y cant o’r boblogaeth. Erbyn 2030, disgwylir y bydd 250,000, bron i wyth y cant o boblogaeth Cymru wedi cael diagnosis canser ac y bydd un ym mhob dau ohonom wedi cael ein heffeithio gan ganser ar ryw adeg yn ein bywydau.

Cyfran y bobl sy'n cael diagnosis o ganser bob blwyddyn
Cyfran y bobl sy'n cael diagnosis o ganser bob blwyddyn

View a large version

“Nid oeddwn eisiau pobl yn edrych arnaf i. Pan edrychwn yn y drych, teimlwn fel nad myfi ydoedd. Teimlwn gywilydd o beth a welwn. Y gwir yw bod y cymorth a ges gan Kathy, Wendy a Macmillan wedi rhoi’r nerth i mi oroesi."- David, Abaty Nedd

Y newyddion da yw bod graddau goroesi yn gwella’n raddol a bod llawer o bobl yn gwella. Ar gyfartaledd, gall 70 y cant2 o drigolion Cymru a gaiff ddiagnosis canser ddisgwyl goroesi o leiaf blwyddyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i raddau goroesi gwell yng Nghymru gael eu hystyried yng nghyd-destun graddau goroesi gwell mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill.

Yn gynharach eleni, rhyddhaodd Cymorth Canser Macmillan ddadansoddiad a ddangosai bod graddau goroesi canser yng Nghymru ar neu du ôl i lefel yr oedd gwledydd eraill Ewrop wedi ei chyflawni yn barod erbyn diwedd 1990au3.

Roedd tystiolaeth gan Astudiaeth CONCORD-24 yn4 cymharu graddau goroesi canser am bum mlynedd ar gyfer ystod o ganserau cyffredin5.

Datgelodd bod graddau goroesi yng Nghymru ar gyfer canser yr ysgyfaint, y fron, y colon a’r stumog ar ei hôl hi 10 mlynedd o’i gymharu â gwledydd eraill Ewrop. Yn yr un modd, mae astudiaeth Eurocare 5 sy’n seiliedig ar boblogaeth yn atgyfnerthu’r canfyddiadau hyn.

Gwyddwn bod y GIG yn brwydro i gwrdd â galw presennol. Mae angen trawsnewidiad yn y ffordd a driniwn a gofalwn am gleifion gyda a thu hwnt i ganser os ydym i gau y bwlch rhwng Cymru a’n cymheiriaid yn Ewrop.

Yr her a wynebwn i gyd yw parhau â’n gyriant i wella canlyniadau, ansawdd bywyd a lleihau enghreifftiau o amrywiad annerbyniol i gleifion yng Nghymru.

Mae llais y claf yn rym gyriant canolog y tu ôl i gyflwyno newid positif. Uchelgais Macmillan yw y sylfaenir strategaethau canser y dyfodol ar brofiad cleifion a safbwyntiau y rhai a effeithir yn uniongyrchol gan ganser. Disgwyliwn i’r llywodraeth nesaf gynnwys ac ymateb i fewnwelediadau arolygon fel Arolwg Profiad Claf Canser yng Nghymru (WCPES) 2014 ac arolygon olynol i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau cleifion yn hysbysu strategaethau canser y dyfodol.

'Teimlwn gywilydd o beth a welwn. Y gwir yw bod y cymorth a ges gan Kathy, Wendy a Macmillan wedi rhoi’r nerth i mi oroesi.' David, Abaty Nedd

David, Abaty Nedd


Beth mae Macmillan Cymru’n galw amdano

Dylai Llywodraeth Cymru, y GIG a’i bartneriaid ymateb i anghenion cynyddol a newidiol pobl sy’n byw â chanser.

I gyflawni’r amcanion, a chwrdd â’r her, mae Macmillan eisiau pobl plaid wleidyddol i flaenoriaethu gofal canser yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru 2016 ac ymroi i:

  1. Canser barhau yn brif flaenoriaeth yn Rhaglen y Llywodraeth nesaf, gan arwain at strategaeth ganser newydd sy’n cyflwyno gofal canser, triniaethau, profiadau a chanlyniadau sy’n cyfateb y gorau yn Ewrop, waeth lle mae’r unigolyn yn byw, eu hoed neu pa fath o ganser sydd ganddynt.
  2. Dylai conglfaen yr uchelgais hon fod wedi gwreiddio yn egwyddor gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n sicrhau bod pob claf canser yn derbyn gofal a thriniaeth wedi eu cydlynu yn dda ac yn gyfannol. Mae’r gofal hwn yn mynd y tu hwnt i’r clinigol i drin pryderon cymdeithasol, ariannol, emosiynol, ymarferol, seicolegol ac ysbrydol pellach hefyd. Mae hyn yn berthnasol i bobl sy’n derbyn triniaeth weithredol, pob yn byw gyda a thu hwnt i ganser a phobl yn cyrraedd diwedd bywyd.
  3. Arweinyddiaeth a llywodraethiad cenedlaethol cryf a thryloyw i amlinellu yn eglur yr uchelgais i gyflawni y strategaeth ganser integredig newydd.

Cred Macmillan y dylai canser barhau fod yn brif flaenoriaeth yn Rhaglen y Llywodraeth nesaf, gan arwain at strategaeth ganser newydd sy’n cyflwyno gofal canser, triniaethau, profiadau a chanlyniadau sy’n cyfateb y gorau yn Ewrop, waeth lle mae’r unigolyn yn byw, eu hoed neu pa fath o ganser sydd ganddynt.

“Teimlwn fel fy mod wedi fy ynysu. Teimlwn fel fy mod mewn swigen o’r diagnosis. Roeddwn i yn y swigen a roedd pawb arall y tu allan. Roedd pawb y tu allan i’r swigen yn parhau gyda bywyd. Roeddwn i’n sownd gyda’r canser hwn. Roedd popeth wedi stopio i mi.” Lisa, Merthyr Tudful

Gellir ond cyflawni yr uchelgais hon yn unig trwy weithio â phartneriaid, sy’n cynnwys y trydydd sector, i roi arweinyddiaeth genedlaethol i ddatblygu strategaeth ganser drawsnewidiol sy’n ymgorffori cynllun gweithredu manwl sy’n amlinellu graddfa’r her a sut y cwrddir â hi erbyn 2021.

Mae llais y claf yn rym gyriant canolog y tu ôl i gyflwyno newid positif. Uchelgais Macmillan yw y sylfaenir strategaethau canser y dyfodol ar brofiad cleifion a safbwyntiau y rhai a effeithir yn uniongyrchol gan ganser. Disgwyliwn i’r llywodraeth nesaf gynnwys ac ymateb i fewnwelediadau arolygon fel Arolwg Profiad Claf Canser yng Nghymru (WCPES) 2014 ac arolygon olynol i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau cleifion yn hysbysu strategaethau canser y dyfodol.

'Roeddwn i yn y swigen a roedd pawb arall y tu allan. Roedd pawb y tu allan i’r swigen yn parhau gyda bywyd.'- Lisa, Merthyr Tydfil

Lisa, Merthyr Tydfil


Sut allwn ni cyflawni’r uchelgais yma?

Cred Macmillan y dylai canser barhau fod yn brif flaenoriaeth yn Rhaglen y Llywodraeth nesaf, gan arwain at strategaeth ganser newydd sy’n cyflwyno gofal canser, triniaethau, profiadau a chanlyniadau sy’n cyfateb y gorau yn Ewrop, waeth lle mae’r unigolyn yn byw, eu hoed neu pa fath o ganser sydd ganddynt.

Mae angen gweddnewid y ffordd rydym yn trin ac yn gofalu am gleifion sydd â chanser, ac sydd y tu hwnt i ganser, er mwyn cau'r bwlch rhwng Cymru a gwledydd tebyg i ni yn Ewrop. Yr her rydym i gyd yn ei hwynebu yw parhau i ymdrechu i wella canlyniadau ac ansawdd bywyd, a lleihau enghreifftiau o amrywiadau annerbyniol i gleifion yng Nghymru.

I gyrraedd y lefel o uchelgais a osodwyd yn y strategaeth ganser newydd, byddai Macmillan yn disgwyl i’r canlynol fod yn benodol ym maniffesto pob plaid.

'Ni theimlais yn rhan o’r penderfyniad ac mae hynny yn gwneud pethau hyd yn oed yn fwy pryderus.' - Mike, Caerdydd

Mike, Caerdydd


Nyrs Canser Arbennigol sydd heyfd yn gweithiwr allweddol

Sicrhau bod pawb sydd yn derbyn diagnosis canser yn cael eu neilltuo ac yn cael mynediad at nyrs ganser arbenigol sydd hefyd eu gweithiwr allweddol o’r diagnosis a thrwy gyfnodau dwys triniaeth.

Mae nyrsys canser arbenigol yn rhan o dîm canser amlddisgyblaethol. Fe’u cydnabyddant fel arfer fel gweithiwr allweddol.

Daliant llwyth achosion clinigol, cydlynant ofal ehangach a gweithiant i hyrwyddo iechyd a lles yn y cleifion a ofalant amdanynt. Defnyddiant eu sgiliau ac arbenigedd mewn gofal canser i ddarparu cymorth corfforol ac emosiynol, cydlynu gwasanaethau a hysbysu a chynghori cleifion ar faterion clinigol ynghyd ag ymarferol, gan arwain at ganlyniadau cleifion gwell. Cysylltant ag arbenigwyr eraill i reoli sgil-effeithiau hirdymor fel blinder, poen, anymataliaeth a lymffoedema.

Mae’r gweithlu sgilgar hwn yn cynorthwyo i wella ansawdd bywyd i bobl â chanser trwy asesu anghenion cyfannol, cynorthwyo’r claf gyda gwneud penderfyniadau, rheoli symptomau a chymorth emosiynol. Gall nyrsys canser arbenigol gynorthwyo hefyd i rymuso cleifion i hunan-reoli eu cyflwr yn well. Dengys tystiolaeth y gall y gweithlu proffesiynol hwn arwain at gostau is ac arbedion effeithlonrwydd ar gyfer darparwyr gofal iechyd trwy lai o apwyntiadau ysbyty, derbyniadau brys a thrwy leihau amser meddyg ymgynghorol6.

Dengys bod mynediad at nyrs ganser arbenigol yn chwarae rôl hanfodol mewn cyflwyno ansawdd uchel, gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn a thriniaeth i bobl gyda chanser.

Fodd bynnag, ledled Cymru, gwyddwn bod gwahaniaethau yn narpariaeth profiad nyrsio arbenigol ar gyfer mathau gwahanol o ganser, ynghyd ag amrywiaeth ledled lleoliadau daearyddol.

“Trwy hyn i gyd ni ches ymgynghoriad ynghylch beth oedd am ddigwydd i mi. Penderfynodd y ddau feddyg ymgynghorol rhyngddynt y byddent yn gwneud beth oeddent eisiau ei wneud, ac yna canfyddais beth oedd am ddigwydd. Ni theimlais yn rhan o’r penderfyniad ac mae hynny yn gwneud pethau hyd yn oed yn fwy pryderus”. Mike, Caerdydd

Nid yw gweithlu nyrsio canser oedolion arbenigol yn ehangu digon i gadw i fyny â’r nifer o bobl a dderbynia ddiagnosis ac sy’n byw â chanser.

Mae angen cynyddol am fuddsoddiad parhaus mewn rolau nyrsio canser arbenigol, yn enwedig mewn mathau o ganser a lleoliadau penodol. Mae angen cynyddol am hyfforddiant pellach a datblygiad proffesiynol ar y cyd ag ail-ddylunio llwybrau clinigol a fyddai’n gwneud gwell defnydd o’r ystod o sgiliau ac arbenigedd.

Mae Macmillan wedi gweithio gyda thimoedd clinigol a rhanddeiliaid trwy Gymru i ddeall a gwerthuso cyfraniad nyrsys canser arbenigol i gynorthwyo cynllunio, gweithlu a gwelliannau i wasanaethau lleol sy’n hanfodol i gyflwyno gofal yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

'Nid oedd gan unrhyw un farn hofrennydd o fy ngofal.' - Aelod Grwp Cynllunio Etholiadau Cynulliad Cymru Macmillan, Gorffennaf 2015

Aelod Grwp Cynllunio Etholiadau Cynulliad Cymru Macmillan, Gorffennaf 2015


Asesiad anghenion cyfannol a chynllun gofal ysgrifenedig

Dylid trefnu cynllun gofal pan dderbynnir diagnosis, ac yna ar ddiwedd y driniaeth neu bryd bynnag y mae anghenion iechyd neu anghenion ehangach yn newid.

Cred Macmillan i gyflawni’r canlyniad gorau yn dilyn diagnosis canser, dylai gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fod wrth galon cyflwyno’r gwasanaeth. Trwy ond ganolbwyntio ar yr unigolyn cyfan y gall profiad y claf yn ystod eu taith ganser fod cystal ag y gallai fod. Mae hyn yn wir i’r rhai hynny sy’n goroesi canser, yn byw â chanser neu’n rhywun sy’n diweddu at ddiwedd eu bywyd.

Golyga gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn bod anghenion yr unigolyn sy’n byw â chanser o hyd wrth galon sut y cynllunir gwasanaethau, nid anghenion darparwyr y gwasanaeth.

Golyga drin pobl gyda sensitifrwydd a thosturi a sicrhau bod eu gofal yn gyfannol yn eu cynllunio a’u cyflwyno. Mae’r gofal hwn yn mynd y tu hwnt i’r clinigol i drin pryderon cymdeithasol, ariannol, emosiynol, ymarferol, seicolegol ac ysbrydol hefyd.

Mae nifer o ffactorau sydd eu hangen er mwyn cyflwyno gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn barhaus ac i ansawdd uchel. Y rhain yw:

  • Cyfranogiad gweithredol y claf yng nghynllunio a deall eu cynllun gofal
  • Asesiadau personol ac anghenion cyfannol a chynlluniau gofal ysgrifenedig
  • Parhad gofal wedi ei gydlynu yn dda
  • Cyfathrebu da
  • Gwybodaeth a chymorth
  • Clustnodi cymorth ariannol, ymarferol ac emosiynol

Mae asesiad a chynllunio gofal yn rhoi cyfle i ymgysylltu gyda phobl mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal a chreu gwybodaeth gwerthfawr i ddatblygu cynllun gofal personol cyfannol. Dylai hyn gynnwys trafodaethau ynghylch y profiad, sgiliau ac arbenigedd y gall unigolyn gyfrannu at wella eu canlyniadau, profiad ac ansawdd bywyd eu hunain.

Dylid cynnal cynllun gofal pan derbynnir diagnosis, ac yna ar ddiwedd y driniaeth neu pryd bynnag mae anghenion iechyd neu’n ehangach yn newid.

Gosoda’r cynllun gofal, a ddatblygwyd yn dilyn yr asesiad anghenion cyfannol, flaenoriaethau ar gyfer gofal, gweithrediadau, amserlenni ac agweddau sydd eu hangen i drin anghenion neu bryderon yr unigolyn.

Dylid cynnig copi ysgrifenedig o’r cynllun gofal i’r unigolyn a effeithir gan ganser gan fod y cynllun gofal yn ‘berchen’ ac yn cynorthwyo’r unigolyn yn ystod ac ar ôl eu triniaeth. Fodd bynnag, awgryma canlyniadau Arolwg Profiad Cleifion Canser yng Nghymru nad yw hyn yn digwydd yn gyson. Dim ond 1 mewn 5 o gleifion canser a adroddodd eu bod cael cynnig cynllun gofal ysgrifenedig.7

Nifer y cleifion canser a gafodd gynnig cynllun gofal ysgrifenedig
Nifer y cleifion canser a gafodd gynnig cynllun gofal ysgrifenedig

View a large version

Mae Macmillan eisiau gweld agwedd gyson i asesiadau a chynllunio gofal trwy ddefnyddio offer dilys a ddefnyddiwyd i asesu anghenion trwy’r llwybr canser fel bod pobl a effeithir gan ganser yn cael cymorth da yn gyson. Mae’r drafodaeth hon yn cefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn sicrhau bod yr ymroddiad o fewn Cynllun Cyflawni Canser yn cael eu gweithredu.


Gwybodaeth a chymorth amserol

Sicrhau bod pob unigolyn a gaiff ddiagnosis canser yn derbyn gwybodaeth a chymorth amserol i’w cynorthwyo i ddeall eu canser a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu triniaeth a’u gofal

Bydd hyn yn cynorthwyo i gyflawni diogelwch cleifion gwell, lleihau risg a chynorthwyo gwell hunanreolaeth. I gyflawni hyn, mae angen gwelliannau mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod pobl, lle bynnag y maent yng Nghymru, neu natur eu cyflwr, â mynediad i wybodaeth o ansawdd uchel yn ystod a thu hwnt i driniaeth mewn fformat sy’n cwrdd â’u hanghenion
  • Cynorthwyo pobl i adnabod gwybodaeth o ansawdd uchel yn hawdd a gyrru gwelliannau mewn ansawdd
  • Sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau sydd ar gael trwy egluro rôl gwasanaethau ac integreiddio gwybodaeth o fewn y llwybrau gofal – yn enwedig mewn perthynas â chymorth yn dilyn triniaeth ysbyty
  • Hyrwyddo symudiad o weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn bod yn ddarparwyr gwybodaeth i alluogwyr gwybodaeth, sy’n cynorthwyo pobl i gael y wybodaeth a’r cymorth maent eu hangen i wneud penderfyniadau a chanfod eu hatebion eu hunain

“Mae fy Nyrs Macmillan wedi bod yn hyfryd. Mae wedi gwneud i mi deimlo’n normal. Gwrandawodd, trosglwyddodd wybodaeth a feddyliai a fyddai’n cynorthwyo fy nhaith i wella.

Ni wn sut y byddwn wedi ymdopi heb Louise oherwydd teimlwn nad oedd neb yn deall beth oeddwn yn ei deimlo am beth a ddigwyddodd ac a oedd yn dal i ddigwydd i mi.”

Eirlys, Wrecsam

'Gwrandawodd, trosglwyddodd wybodaeth a feddyliai a fyddai’n cynorthwyo fy nhaith i wella.'- Eirlys, Wrecsam

- Eirlys, Wrexham


Mynediad i gyngor budd-daliadau lles

Sicrhau bod pob unigolyn sy’n derbyn diagnosis canser yn cael cynnig y cyfle i gael mynediad at gyngor budd-daliadau lles.

Dylai pob unigolyn a gaiff ddiagnosis canser gael eu hysbysu fel mater o drefn o le a sut i gael cyngor am fudd-daliadau lles i sicrhau ei bod yn gallu cael y cymorth ariannol a haeddant mewn modd amserol i gynorthwyo i osgoi pentyrru anawsterau ariannol oherwydd eu salwch.

Mae cael canser yn ddrud. Dengys ein hymchwil bod mwy na hanner o bobl gyda diagnosis canser yng Nghymru yn poeni ynghylch eu harian. Mae un o bob pedwar yn gorfod cwtogi ar wariant cartref arferol9. Mae un o bob pump o bobl â phroblemau talu eu biliau, rhent neu forgais. Gwyddwn o siarad â chleifion mewn achosion eithafol eu bod wedi dod yn ddi-gartref yn dilyn diagnosis canser.

“Rwy’n lwcus mod fy ngŵr yn gweithio a nad oes gennym forgais. Ond nid pawb sy’n y sefyllfa honno.

Nid oeddwn yn ymwybodol y gallwn fod yn gymwys am fudd-daliadau nes y dywedodd y nyrs wrthyf yn yr ysbyty. Mae Tina a Rob, fy Ymgynghorwyr Budd-daliadau Lles, wedi bod yn wych.”

Judy, Abertawe

Mae colli incwm yn un o’r heriau ariannol mwyaf i bobl a gaiff ddiagnosis canser. Mae 43 y cant o’r rhai hynny mewn gwaith pan yn cael diagnosis yn derbyn colled incwm10, tra efallai yr effeithir incwm y gŵr/gwraig, partner neu ofalwr os oes angen iddynt roi gorau i’r gwaith neu leihau eu horiau i ofalu am eu hanwyliaid. Mae colli incwm ar ei fwyaf yn y flwyddyn gyntaf wedi diagnosis, pryd mae unigolyn cyffredin yn colli oddeutu 20% - £5,500 yng Nghymru – o’u henillion.11

Dywed llai na hanner o bobl yng Nghymru gyda diagnosis canser eu bod yn derbyn cyngor neu gymorth ariannol gan ryw ffynhonnell. Cwympa’r ffigwr hwn ymhellach ymysg y rhai dros 65, lle mae llai nag un o bob tri yn derbyn cymorth.12

Mynediad a cyngor budd daliadau lles
Mynediad a cyngor budd daliadau lles

View a large version

Niferoedd y bobl yng Nhymru gyda diagnosis canser sydd yn cael cyngor neu chefnogaeth ariannol.13

Dim ond chwarter o bobl â chanser sy’n trafod eu sefyllfa ariannol gyda gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol. Gostyngir y ffigwr hwn eto ymysg y rhai dros 65 i ond 11%
Dim ond chwarter o bobl â chanser sy’n trafod eu sefyllfa ariannol gyda gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol. Gostyngir y ffigwr hwn eto ymysg y rhai dros 65 i ond 11%

View a large version

'Nid oeddwn yn ymwybodol y gallwn fod yn gymwys am fudd-daliadau nes y dywedodd y nyrs wrthyf yn yr ysbyty' - Judy, Abertawe

- Judy, Abertawe


Cwtogir derbyniadau heb eu drefnu

Sicrhau bod llai o bobl sy'n agosáu at ddiwedd eu hoes yn gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty heb i hynny gael ei drefnu a dylid cynllunio ar gyfer gofal da cyn i gyflwr claf waethygu.

Mae Macmillan yn disgwyl Llywodraeth Cymru i ymroi i gyflwyno gofal lliniarol a diwedd bywyd o ansawdd uchel14. Ar gyfer pobl na ellir eu gwella neu sy’n marw o ganser, mae angen i’w gofal a’u triniaeth barhaus gael eu cynllunio’n gyfannol.

Gyda chymorth gofal sylfaenol a thrwy gynllunio gofal uwch, dylai pob ymdrech gael ei gwneud i sicrhau y gofelir am bobl a, lle bo’n bosibl, iddynt gael marw yn y lle maent wedi ei ddewis. Dylai derbyniadau i’r ysbyty heb eu trefnu a ellir eu hosgoi yn ystod y cyfnod hwn o’r salwch gael eu hatal lle bo’n bosibl.

Mae Cynllunio Gofal Uwch (ACP) yn offer pwysig iawn i ddeall dymuniadau, anghenion a dewisiadau pobl ar ddiwedd bywyd. Mae’n hwyluso cynllunio i gwrdd â hwy.

Yn anffodus, os na nodir bod pobl yn dynesu at ddiwedd bywyd, a nad yw gweithwyr proffesiynol yn cychwyn sgyrsiau i ddeall anghenion a dewisiadau pobl, mae’n llai tebygol y gellir gosod cynlluniau i gwrdd â’r anghenion hynny. Mae tystiolaeth i awgrymu bod defnyddio prosesau fel Cynllunio Gofal Uwch i sefydlu dymuniadau unigolyn ynghylch eu gofal ar ddiwedd bywyd yn cynyddu’r tebygolrwydd y caiff y dymuniadau hynny eu cwrdd.

Credwn, trwy gymorth Cynllunio Gofal Uwch, y dylid atal derbyniadau brys heb eu trefnu a ellir eu hosgoi ar gyfer pobl ar ddiwedd eu bywyd trwy gymorth da yn y gymuned mewn gofal iechyd a chymdeithasol.

Mae byrddau iechyd sydd â Hwylusydd Cynllunio Diwedd Bywyd/Gofal Uwch mewn lle wedi dangos ei fod yn fodd gofal hynod effeithiol ar gyfer cynorthwyo i weithredu cynllunio gofal. Mae hefyd yn fuddiol i weithwyr proffesiynol gofal iechyd a chymdeithasol trwy addysg a hyfforddiant ymroddedig.


Mynd i’r afael â’r Bwlch Llywodraethu Cenedlaethol yn GIG Cymru

Nid yw’n ddigon i ofal canser o ansawdd uchel barhau yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd angen trefniadau cryfach ar gyfer llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer sicrhau cyflwyno a gweithredu ar lefel genedlaethol. Croesawn y trefniadau unedig a chryf am un rhwydwaith canser yng Nghymru. Credwn fod hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, mae angen camau pellach i gryfhau llywodraethu ac atebolrwydd cenedlaethol.

Credwn heb y raddfa a chyflymder newid sydd eu hangen, parha Cymru i lusgo ac ni wireddir ein dyheadau i ddarparu gofal canser sy’n cyfateb i’r gorau yn Ewrop.

Credwn fod angen arweinyddiaeth genedlaethol gryfach i gyflymu cyflymder newid yn nhermau cyflwyno cynlluniau polisi a gytunir arnynt i wella trefniadau llywodraeth. Cryfhaodd ein cais i ymchwiliad Pwyllgor Gofal Iechyd a Chymdeithasol y Cynulliad i weithredu Cynllun Cyflwyno Canser Llywodraeth Cymru fis Ebrill 2014, a’n hymateb i’w adroddiad a gyhoeddwyd fis Hydref 2014, ein galwad am hyn i ddigwydd.

Tra y cydnabyddwn y trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth y GIG, mae craffu cenedlaethol sefydliadau unigol dan law Llywodraeth Cymru. Ni ellir ei ddirprwyo i grwpiau fel Grŵp Gweithredu Canser, na byrddau iechyd, eu poblogaethau lleol na sefydliadau yn y trydydd sector. Ni all y bwlch llywodraethu hwn barhau.

Mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru sefydlu trefniadau tryloyw a chryf ar gyfer rheoli sefydliadau unigol yn GIG Cymru gyda’r nod o godi perfformiad, adeiladu ymddiriedaeth gyda’r cyhoedd, lleihau amrywiad a sicrhau cyflwyno ymroddiadau.


Rhagor o wybodaeth

Mae Macmillan wedi cynhyrchu cyfres o fwy o luniau cyfoethog i gefnogi ein argymhellion a rhoi tystiolaeth i gefnogi ein galwadau.

Hoffai Macmillan diolch i aelodau grŵp ymgysylltu rhanddeiliaid Etholiad 2016 sydd wedi cynorthwyo i ddatblygu’r ddogfen weledigaeth hon ar gyfer Etholiadau y Cynulliad Cenedlaethol 2016.

Am gopi o’r rhain, neu am fwy o wybodaeth ynghylch ein argymhellion ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, cysylltwch â:

Lowri Griffiths Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus lgriffiths@macmillan.org.uk neu

Matthew Kennedy Swyddog Polisi mkennedy@macmillan.org.uk


Cyfeirnodau

1“Wedi Gwella ond ar Ba Gost”

2Data Ystadegau Swyddogol Uned Cudd-wybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru 2012. Cyhoeddwyd 10 Ebrill 2014.

3Cymhariaeth Macmillan o net goroesi pum mlynedd gydag oedran wedi ei safoni ar gyfer cleifion a dderbyniodd ddiagnosis yn 2005-09 o’i gymharu â 1995-99.

4Grŵp Gweithiol CONCORD ac eraill. Gwyliadwriaeth fyd-eang o oroesiad canser 1995-2009: dadansoddiad o ddata unigol ar gyfer 25 676 887 o gleifion o 279 o gofrestrfeydd yn seiliedig ar boblogaeth mewn 67 gwlad (CONCORD-2). The Lancet. Cyhoeddwyd ar-lein 26 Tachwedd 2014.

5De Angelis R, Sant M, Coleman MP, ac eraill. Goroesi canser yn Ewrop 1999-2007 yn ôl gwlad ac oed: canlyniadau EUROCARE-5 – astudiaeth yn seiliedig ar boblogaeth. Lancet Oncol 2013; cyhoeddwyd ar-lein Rhag 5. http://dox.doi.org/10.1016/s1470-2045(13)70546-1.

6Iechyd o Ansawdd, Ionawr 2014 “Arolwg Profiad Cleifion Canser yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol” - http://gov.wales/docs/dhss/publications/140117canceren.pdf (Cafwyd 20/08/2015).

7Iechyd o Ansawdd, Ionawr 2014 “Arolwg Profiad Cleifion Canser yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol” - http://gov.wales/docs/dhss/publications/140117canceren.pdf (Cafwyd 20/08/2015)

8Ynghudd Gartref, Cymorth Canser Macmillan (2015)

9Cyfrif cost canser, Cymorth Canser Macmillan (2012)

10 ibid

11 ibid

12 ibid

13 ibid

14 Y Ty Cyffredin, Pwyllgor Iechyd, Diwedd Bywyd, href="http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201415/cmselect/cmhealth/805/805.pdf" title="opens in new window" target="_blank">Adroddiad y bumed sesiwn 2014 – 15, Mawrth 2015