Browser does not support script.
Skip to main content
search here
Gofynnwch i ymgeiswyr sy’n sefyll yn etholiadau’r Cynulliad i gefnogi ein hymgyrch a rhoi pobl wrth galon gwasanaethau canser yng Nghymru.
View this page in English/ Gweld y dudalen hon yn Saesneg.|
Diolch yn fawr i’r cannoedd o ymgyrchwyr a weithredodd er mwyn newid gofal canser yng Nghymru. Roedd ein hymgyrch i ddylanwadu ar Aelodau Cynulliad yn y cyfnod cyn etholiadau mis Mai yn llwyddiant ysgubol. Mae bron i hanner yr holl Aelodau Cynulliad (ACau) a etholwyd wedi ymrwymo i gefnogi ein hymgyrch. Yn wir, roedd maniffesto etholiadol Plaid Lafur Cymru, a enillodd yr etholiad, yn cynnwys holl alwadau Macmillan.
Rydym bellach yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr holl ACau yn helpu i wella gofal canser i bobl sy’n byw yng Nghymru. A byddwn yn cydweithio’n agos â Lesley Griffiths, y gweinidog newydd â chyfrifoldeb dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod yr addewidion etholiadol hynny’n cael eu cadw.
Gwyliwch ein ffilm etholiadol, gyda sylwebaeth gan Peter a Fiona Thomas [yn y llun] o sir Gaerfyrddin.
Mae bron i 120,000 o bobl yn byw gyda chanser yng Nghymru heddiw. Erbyn 2030 bydd y nifer hwnnw wedi dyblu bron iawn. Rydym yn gofyn i’r Llywodraeth nesaf i ddatblygu strategaeth ganser cenedlaethol sy’n rhoi pobl yn ganolog. Strategaeth fydd yn sicrhau y bydd gan bawb sydd wedi cael diagnosis o ganser y canlynol:
Dysgwch fwy am ein galwadau etholiadol.|
Derbyniwch y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch a’n helpu ni i wella gofal canser.
Byddwch yn e-ymgyrchydd |
Gweithredwch heddiw |
Os yw’r materion a godir yn yr ymgyrch hon yn effeithio arnoch chi, gallwn ni helpu: