Browser does not support script.
Skip to main content
search here
Nod ymgyrch Cyfri Cost Canser Macmillan yw lleihau effaith ariannol canser ar gyfer pobl yng Nghymru.
Canser yw’r frwydr galetaf y bydd llawer ohonom yn ei hwynebu. Mae pobl y dweud wrthym mai gofidiau arian yw eu pryder mwyaf, ar ôl y diagnosis ei hun.
Mae canser yn ddrud. Boed hynny oherwydd cadw digon o danwydd yn y car ar gyfer y tripiau mynych i’r ysbyty, biliau gwresogi uwch neu’r pryder oherwydd incwm is.
Ein nod yw lleihau effaith ariannol canser ar gyfer pobl yng Nghymru drwy wneud y canlynol:
Darllenwch straeon pobl sy’n byw gyda chanser ac sydd wedi wynebu caledi ariannol, a rhannu’ch straeon chithau.
Darganfod mwy am gost ariannol canser ar fywydau pobl ar draws Cymru.
Mae help wrth law drwy ymgynghorwyr budd-dal lles| Macmillan a llinell gymorth Macmillan|
Darllenwch ein hadroddiad ymgyrch yn llawn i ddarganfod mwy| >
Cyn i fi gael diagnosis o ganser, roeddwn yn rhedeg fy musnes teuluol ac yn byw bywyd bywiog. Ond nawr bu’n rhaid i fi gau fy musnes gan fod ymdopi ag ef yn ormod ar ben yr holl bryder. Cefais wybod am gymorth ariannol, ond dim ond pan oeddwn i’n parhau i ddweud wrth bobl fy mod i’n poeni. Sheila, Llandudno
Cyn i fi gael diagnosis o ganser, roeddwn yn rhedeg fy musnes teuluol ac yn byw bywyd bywiog. Ond nawr bu’n rhaid i fi gau fy musnes gan fod ymdopi ag ef yn ormod ar ben yr holl bryder. Cefais wybod am gymorth ariannol, ond dim ond pan oeddwn i’n parhau i ddweud wrth bobl fy mod i’n poeni.
Sheila, Llandudno
Darllenwch y straeon y tu ôl i’r ymgyrch >|