Browser does not support script.
Skip to main content
search here
Mae cael canser yn ddrud. Mae un o bob pump o bobl yn cael trafferthion i dalu eu biliau, eu rhent neu forgais. Ni ddylai fod felly, ond dyma’r ffeithiau. Gallwch weld mwy am gost canser yng Nghymru yn ein mapiau isod.
Mae’r costau uwch sy’n gysylltiedig â diagnosis o ganser yn debygol o lyncu cyfran fawr o incwm unigolyn.
Gall biliau’r aelwyd gynyddu’n ddramatig wedi diagnosis. Gall biliau tanwydd gynyddu gan fod cleifion gartref yn fwy nag arfer ac yn fwy tebygol o deimlo’n oerfel yn ystod triniaeth.
Mae’r map isod yn dangos y costau ychwanegol a wynebir gan bobl sydd â chanser dros gyfnod o bum mlynedd wedi diagnosis.
Gweld copi mawr o'r map |
Colledion incwm yw un o’r prif faterion ariannol i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser.
Gall incwm priod neu bartner gael ei effeithio hefyd os oes angen iddynt roi’r gorau i weithio neu leihau eu horiau er mwyn gofalu am rywun.
Mae’r map isod yn dangos colledion incwm pobl sydd â chanser dros gyfnod o bum mlynedd wedi diagnosis.
Gweld copi mawr o'r map|
Mae’r ymchwil a ddangosir uchod yn dod o waith gan ‘The Monitor Group’ ar gyfer Macmillan.
Os hoffech ddysgu mwy gallwch ddarllen ein hadroddiad ymgyrch Cyfri Cost Canser|, sy’n rhoi golwg cyffredinol hawdd ei ddeall o’r ymchwil.
Os oes arnoch eisiau rhagor o ystadegau, darllenwch yr adroddiad llawn gan ‘The Monitor Group’- ‘Cancer Poverty in Wales’.|
For cancer support every step of the way call the Macmillan team free (Monday to Friday, 9am-8pm)
Darllenwch ein hadroddiad ymgyrch yn llawn i ddarganfod mwy> |
Adroddiad ymgyrch Cyfri Cost Canser