Browser does not support script.
Skip to main content
search here
Heddiw mae Cymorth Canser Macmillan yn lansio ymgyrch yn galw am strategaeth ganser cenedlaethol i Gymru.
View this page in English / Gweld y dudalen hon yn Saesneg. |
Peter Thomas and wife Fiona.
Mae’r ymgyrch Newid Gofal Canser Heddiw yn cael ei lansio er mwyn annog pleidiau gwleidyddol i roi gwasanaethau canser flaenaf yn eu maniffestos cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Mae’r elusen yn lansio ffilm fer, sy’n adrodd hanes cwpl o Gymru sydd wedi’u heffeithio gan ganser, ac yn egluro sut y byddai strategaeth canser yn helpu i wella gofal yng Nghymru. Dangosir y ffilm heno i gynulleidfa o wahoddedigion gan gynnwys gwleidyddion, y cyfryngau, pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser a gweithwyr iechyd proffesiynol, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Yn ôl Cath Lindley, rheolwr cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, mae’r ffilm yn darlunio’r problemau a wynebir gan bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser ac yn gosod allan yr hyn sydd ei angen i’w cefnogi nhw gydol eu triniaeth ac wedi hynny. Meddai:
'Mae’r ffilm yn adrodd hanes Peter Thomas a’i wraig, Fiona, o’r diwrnod y cafodd Peter ei ddiagnosis, tan ar ôl ei apwyntiad olaf yn yr ysbyty. Mae’n siarad am y gefnogaeth yr oedd arno ei hangen ond nad oedd ar gael yn anffodus.
'Mae’r ffilm yn ffordd hygyrch o egluro effaith ddinistriol canser ar fywydau pobl drwyddi draw, a’r newidiadau sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael â’r anghenion sydd heb eu cyflawni. Yn anffodus, mae cefnogaeth i bobl sydd â chanser yng Nghymru yn afreolaidd ac yn anghyson, sy’n golygu bod profiad Peter a Fiona i’w weld mewn trefi, dinasoedd a phentrefi ledled Cymru.
'Mae ar Gymru angen strategaeth ganser sy’n mynd i’r afael â’r materion heriol hyn ac sy’n sicrhau bod pawb yn cael cefnogaeth sydd wedi’i theilwra i’w hanghenion nhw.'
Mae’r ffilm, The Journey, yn adrodd stori Peter Thomas o Foelgastell, Sir Gaerfyrddin. Yn y ffilm, mae’n egluro sut yr oedd yn teimlo’r eiliad gafodd ei ddiagnosis:
'Roedd gen i lymffoma nad yw’n Hodgkins, gan arwain at diwmor chwe centimetr ar fy mrest. Roedd yn anodd iawn i fi ddygymod ag ef. Dechreuodd y driniaeth ar unwaith bron. Roedd yn teimlo fel dechrau ar daith hir a does gyda chi ddim syniad pryd y daw i ben.
'Mae’n daith i’r dirgel felly dydych chi ddim yn gwybod i ble yr ewch chi nesaf. Mae yna lawer o wybodaeth ar gael ond mae angen help arnoch chi i wneud synnwyr ohoni,' ychwanegodd.
Cafodd Peter 18 mis o driniaeth flinderus gan gynnwys wyth cylch o gemotherapi, tair wythnos o radiotherapi yn ogystal â thrawsblaniad bôn-gelloedd oedd yn golygu iddo gael ei arwahanu am fis. Ond meddai mai’r cyfnod wedi hyn oedd fwyaf anodd iddo:
'Dywedon nhw fod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus, ond roedd fel cael fy ngwthio i ystafell dywyll a chau'r drws y tu ôl i fi.'
Yn y ffilm mae Fiona’n dweud y byddai cefnogaeth well wedi’r driniaeth wedi helpu’r ddau ohonyn nhw.
'Bu’n daith hir ac nid yw ar ben eto. Roedd gennym ni gymaint o gwestiynau yr oedd angen eu hateb ond doeddem ni ddim yn gwybod gyda phwy allem ni siarad,' meddai.
Yn ôl Cath Lindley mae ar Gymru angen strategaeth ganser cenedlaethol er mwyn sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ar yr adeg iawn. Meddai:
'Mae dros 100,000 o bobl yn byw gyda chanser yng Nghymru heddiw, ac erbyn 2030 bydd y nifer honno wedi dyblu. Canser yw’r ail achos mwyaf cyffredin o farwolaeth yng Nghymru, ond diolch i ddiagnosis cynharach a thriniaeth well mae mwy a mwy o bobl yn goroesi ac yn byw’n hirach.
'Mae Macmillan am weld strategaeth ganser cenedlaethol sydd yn darparu nid yn unig driniaeth glinigol o’r radd flaenaf i bawb yng Nghymru, ond hefyd cefnogaeth barhaus a gofal o ansawdd uchel sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion tymor hir.
'Mae ar bobl angen gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn ymdopi gydag effaith ariannol, emosiynol ac ymarferol canser, ac mae arnyn nhw angen gallu cael gafael ar help adeg eu diagnosis, yn ystod ac wedi triniaeth, yn ogystal ag ar ddiwedd eu hoes.'
Ychwanegodd Ms Lindley wrth siarad am y ffilm:
'Rydym ni am i gynifer o bobl â phosib i weld y ffilm hon fel eu bod yn deall pa mor hanfodol yw strategaeth ganser wrth wella bywydau pobl sy’n byw gyda chanser.'
Mae Macmillan yn galw ar wleidyddion o’r holl brif bleidiau gwleidyddol i ymgyrchu dros fwy o gefnogaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser.
Hoffai Macmillan i bob ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad eleni weld y ffilm a gwneud addewid o’u cefnogaeth i strategaeth ganser cenedlaethol i Gymru.
Mae’r elusen hefyd yn gofyn i bobl ar draws Cymru i wylio’r ffilm ac i ymuno yn yr ymgyrch Newid Gofal Canser Heddiw. Gallwch wylio The Journey yma:
www.macmillan.org.uk/waleselection|